Wednesday, 12 June 2019

Gwynoro yn ymateb i adolygiad Vaughan Hughes yn Cylchgrawn Barn

Wela i ddim byd anraslon nac anghytbwys yn fy llyfyr 'Gwynoro a Gwynfor' 

Beth sydd yma ydy cofnod o'r hyn a welais, glywais ac a dystiais 

Un nod syml oedd wrth fwrw ati i sgrifennu’r llyfr ‘Gwynoro a Gwynfor’, sef croniclo hanes etholaeth Caerfyrddin 1966-75, a hynny mewn modd nad oedd wedi ei wneud mewn un cyfrol o’r blaen. Roedd y croniclo’n seiliedig ar archif gynhwysfawr nes i gasglu dros y cyfnod hwnnw. Mae corff y llyfr yn adrodd y stori fel roedd yn datblygu ar y pryd ac yn y bennod ola rydw i’n pwyso a mesur wrth edrych nôl heddi ar ddigwyddiadau’r cyfnod. Dw i ddim yn siŵr os ydy Vaughan Hughes wedi deall y strwythur yma. Trueni iddo ostwng i lefel tabloid trwy fy nghuddo o ‘bigo crachen’. Sylw arwynebol ar y gore.

Mae’n ddigon posib bod rhai yn gwybod am rhai o’r straeon sydd yn y llyfr eisoes, wrth gwrs ei fod e. Yng Nghymru ydyn ni wedi’r cyfan. Ond, mae y mwyafrif helaeth iawn o’r deunydd yma sydd yn gwbl newydd, fel mae’r rhan fwyaf wedi nodi wrth ymateb i’r llyfr, gan gynnwys mewn sgyrsiau radio a theledu ac adolygwyr eraill hefyd. Ac mae cael y cyfan gyda’i gilydd rhwng dau glawr yn newydd hefyd.

Ymgais oedd i ososd ar gof a chadw yr hyn ‘a welais, glywais ac a dystiais’. Ie,dweud yr hanes fel ‘roeddwn yn ei fyw ar y pryd. Wrth gwrs bod stori Gwynfor wedi cael ei cyfnodi droeon a throeon, ac mae hynny yn haeddiannol. Ond mae’r llyfr hwn yn cymeryd agwedd gwahanol ar bethe.

Roeddwn yn deall y bydde rhai yn anhapus â hyn. ‘Rwyn cofio’r diweddar Dr Phil Williams yn dweud wrthyf tua diwedd y saithdegau – ‘Fe geision ni ym Mhlaid Cymru dy ysgrifennu di allan o’rholl gyfnod a gwneud yn siŵr nad oedd fawr ddim son amdanat’. Wel,chwerthynais ar y pryd, ond roedd go agos at ei le. Mewn gwirionedd, mae’n dal i barhau hyd yn oed yn adolygiad Vaughan Hughes – a oes unrhyw gyfeiriad at fy ngweithgaredd â’m ymdrechion fel Aelod Seneddol? Na, anwybyddu’r cyfan! 

Dyw e ddim yn sôn am fy ymdrechion pan yn Aelod Seneddol, ac ymhell cyn hynny, i wneud y Blaid Lafur yn fwy Cymreigedd â’m cyfraniad sylweddol tuag at hybu datganoli. Cyfraniad sydd yn cynnwys bod y cynta i siarad Cymraeg yn un o’r Seneddau Ewropeaidd, cymryd fy llw yn y Gymraeg yn San Steffan a bod yn cyd-drefnydd sefydlu’r broses i ganiatau i unrhyw un arall wneud hynny hefyd i’r dyfodol. Dyma’r fath o ffeithie sydd wedi profi’n dân ar groen Plaid Cymru erioed.

Mae’n rhaid pwysleisio un pwynt mwy personol. Does dim chwerwder ynglŷn â’r holl ymrafael a fu yn perthyn i fi o gwbl bellach. Dyna pam ro’ ni’n hapus i sgrifennu’r llyfr nawr, gan fod unrhyw deimladau cas wedi hen fynd a bod modd croniclo’n fwy cytbwys. Wrth gwrs fe fu ‘colbio, dirmygu a diraddio’ o blaid cefnogwyr ac aelodau Llafur a Plaid Cymru. 

‘Roedd yn gyfnod chwerw gyda atgasedd amlwg fel mae’r llyfr yn son. Profais yr atgasedd â’r chwerwder yna droeon, yn enwedig ar nosweithiau etholiadau 1970 a 1974. Bu’n rhaid i’r heddlu fy rhwystro rhag annerch y dorf yn‘70 oherwydd yr awyrgylch cas, a chefais bygythiadau personnol wedi cyfri etholiad ‘74 pan enillais o dair pleidlais, a bu’n rhaid i’r heddlu warchod fy nghartre am dau ddiwrnod.  Ydw, dwi’n gwbod digon am ddicter cefnogwyr Plaid Cymru y dyddie hynny. Dangoswyd cryn dipyn o chwerwder ac atgasedd hefyd tuag at etholwyr Sir Gar oherwydd i Gwynfor golli, yn y cylchgrawn ‘Taliesin’ er enghraifft.

Ond dyw’r dicter yna ddim wedi corddi dros y pedwar degawd a mwy ers hynny. Yn y blynyddoedd diwetha, dw i wedi rhannu llwyfan gyda rhai o selogion y Blaid ar faterion yn ymwneud a datganoli pellach i Gymru, gan gynnwys hunan lywodraeth i’n Cenedl.  Ni fyddai unrhyw chwerwder wedi caniatau i fi wneud hynny. A beth bynnag, dw i ddim am adael i unrhyw chwerwder o’r gorffennol pell ddiflasu fy mywyd a finne nawr yn fy saithdegau!


Dydw i ddim yn derbyn hefyd fod yna ‘anraslonrwydd’ gennyf ac mae’r penode olaf yn dangos hyn yn amlwg, lle dwi’n cyfadde gwendidau ac yn dyfaru ambell beth.

Difyr nodi bod Vaughan Hughes yn disgwyl i fi fod yn wrthrychol. Gallai ddim bod yn gwbl wrthrychol, dim mwy nag y gall e wrth fy meirniadu. Mae ei sylwadau yn sicr yn ategu’r hyn a nodir yn y llyfr, sef ei fod yn annodd iawn beirniadu Gwynfor o gwbl, er gwaetha ei wendidau â’i ffaeleddau amlwg. Ond lleiafrif oddifewn i BlaidCymru sydd wedi mynegu’r un farn â Vaughan Hughes, yn gyhoeddus o leia. Mae nifer fawr, yn enwedig y genhedlaeth ifanca, yn gweld pethe fel ma nhw, heb yr eilun addoli. Dw i’n cadw at y safbwynt sydd yn y llyfr, doedd Gwynfor ddim yn wleidydd da,cenhadwr oedd e – a dyna fy ymwneud i ag e yn y brwydrau etholaethol. Mae lan i eraill i werthuso ei gyfraniad mewn meysydd eraill.

Mae’r llyfr yn gorffen trwy fynegi dyhead didwyll y bydde wedi bod yn beth da petai Gwynfor a fi wedi siarad a thrafod gyda’n gilydd. Wnaethom hynny erioed, yn hytrach anwybyddu’n gilydd a fu. Bydde’r ddau ohonom wedi cytuno ar gryn dipyn dw i’n argyhoeddedig. Welai ddim byd anghytbwys nac anraslon yn y fath osodiad.